Mae Steve wedi gweithio ym maes rheoli tai ers bron i 40 mlynedd. Gan ddechrau fel hyfforddai tai gyda’r Joseph Rowntree Memorial Trust yn 1982, gweithiodd i fyny i fod yn Gyfarwyddwr Dros Dro ar lefel Tai o fewn awdurdodau lleol yn Lloegr, cefn gwlad yr Alban a chefn gwlad Cymru, cyn gweithio fel Cyfarwyddwr Grŵp Gwasanaethau Cymunedol mewn cymdeithas dai draddodiadol am ddeng mlynedd yn yr 1990au. Yna arweiniodd Steve y gwaith o sefydlu cymdeithas dai LSVT wledig newydd, fel Prif Weithredwr cyntaf Tai Ceredigion, ac aeth ymlaen i arwain dau brosiect uno gydag elusen tai â chymorth a chymdeithas dai draddodiadol fel Prif Weithredwr Grŵp Barcud Cyf.
Mae Steve yn cael ei gydnabod fel arbenigwr tai gwledig yng Nghymru, ac wedi cadeirio grwpiau tai gwledig cenedlaethol, siarad mewn cynadleddau tai, yn ogystal â chynnal cyfweliadau radio a theledu dwyieithog yn rheolaidd ar ran y sector tai, Sefydliad Tai Siartredig Cymru, a’r corff masnach ymbarél ar gyfer cymdeithasau tai, Cartrefi Cymunedol Cymru.
Mae Steve yn gallu cynnig y gwasanaethau tai a thai â chymorth canlynol:
Cyngor ar reoli tai
Cyngor ar strategaeth dai
Cyngor ar strwythur staffio tai / ailstrwythuro
Adolygiadau strategol o wasanaethau tai â chymorth